TOI HARAN

Yr Arbenigwyr Toi Annibynnol

Croeso i wefan Haran Roofing, arbenigwyr toi annibynnol sy'n gwasanaethu Cymru a'r DU.

Mae ein busnes yn arbenigo mewn adeiladu toeau a defnyddio deunyddiau sy'n gwneud adeiladau yn gwrth-ddŵr a gwrthdywydd.

Wedi ein sefydlu yn ddiweddar, mae gennym nifer o achrediadau ac ardystiadau diwydiant, ac rydym yn anelu at gynnal safonau uchel o waith yn gyson a rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid.

Gweithwyr Profiadol

Mae gweithwyr profiadol Haran yn helpu i gwblhau prosiectau a chynnal enw da rhagorol sydd gennym ar draws y diwydiant fel un o brif gyflenwyr o wasanaethau toi. Mae'r enw da yma wedi cael ei ennill diolch i ddull o weithio sy'n sensitif i ofynion cwsmeriaid ac sydd yn llawn gofal a chydwybodolrwydd.

Trwy gadw i fyny â datblygiadau masnach ac arfer gorau, mae ein cyngor yn fodern, yn wybodus ac yn hollol ddiduedd. Fel contractwr cwbl annibynnol nid oes gennym unrhyw ragfarn pan ddaw i nodi deunyddiau neu ddulliau, gan sicrhau mai dim ond y systemau profedig priodol a gaiff eu defnyddio ar gyfer eich prosiect.

Mae ein gwasanaeth arolygu ac amcangyfrif yn ein galluogi i ddarparu cyllideb a manyleb cyflawn, heb ymrwymiad, gan eich galluogi i gynllunio gwaith yn y dyfodol yn effeithiol.

Mae annibyniaeth llwyr yn golygu rhyddid llwyr i’ch darparu â'r toeau fwyaf priodol, fwyaf cost-effeithiol ac o’r safon uchaf, beth bynnag yw maint eich adeilad.

I gyd-fynd a’n gwasanaethau toi, rydym hefyd yn gosod ystod o systemau cladin wal.